top of page

Digwyddiadau / Events 2025

Dyma restr o ddigwyddiadau y mae’r tîm Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yn eu darparu eleni. Wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi ac wrth i drefniadau gael eu gwneud, bydd mwy o wybodaeth ar gael. Deiliaid lleoedd yw'r rhain yn bennaf i arbed y dyddiad.

Here are a list of events that the Children, Youth and Families team are providing this year. As the year progresses and arrangements are made, more information will be available. These are mainly place holders to save the date. 

Image by Tim Mossholder

More to follow....

The events below are still in the process of being organised, but as soon as more information is available the events list and bookings will be updated. 

Gŵyl y Plant (ar gyfer Ysgolion)

Childrens Festivals (for Schools)

Colorful confetti in sky

Yn hanesyddol, mae'r esgobaeth wedi cynnal Gŵyl y Dyrchafael yn yr Eglwys Gadeiriol bob blwyddyn, lle mae tua 300 o blant yn dod ynghyd i fwynhau crefftau, gweithgareddau ac addoliad gyda'i gilydd. Eleni rydyn ni am fynd gam ymhellach, ac felly bydd gŵyl y plant yn cael ei chynnal ledled yr esgobaeth ym mhob archddiaconiaeth. Dydy’r dyddiadau a'r lleoliadau ddim wedi'u cadarnhau eto, felly dewch yn ôl yma am ragor o wybodaeth. Os ydych chi'n gynrychiolydd ysgol, byddwn mewn cysylltiad â chi cyn bo hir.  

 

Historically the diocese has provided an Ascension Day Festival in the Cathedral each year, at which some 300 children come to the cathedral and enjoy crafts, activities, and worship together. This year we want to expand our reach, and so we will be providing our children's festival across the diocese in each archdeaconry. The dates and venues are yet to be confirmed, so check back here for more information. If you are a representative from a school, we will be in touch shortly. 

Pererindod Ieuenctid 2025 4 - 8 Awst

Youth Pilgrimage 2025 4th - 8th August

IMG_3015.jpeg

Bydd Pererindod Ieuenctid Tyddewi yn ei hôl eleni eto, ac yn fwy ac yn well nag erioed o'r blaen. Rydyn ni wedi gwrando ar y bobl ifanc, a bydd ychydig llai o gerdded, mwy o weithgareddau gan gynnwys nofio a padlo, barbeciws i ginio a theithiau diddorol fel rhan o'r wythnos. Bydd rhagor o wybodaeth  ar gael maes o law am yr union drefniadau, ond bydd y ffurflenni archeb ar gael cyn diwedd mis Ionawr (o’u cael wedi’u cyfieithu). Cadwch lygad am y wybodaeth ddiweddaraf. 

The St Davids Youth Pilgrimage will return this year, bigger and better than ever before. We have listened to the young people, and there will be slightly less walking, more activities including swimming/paddling, BBQs for lunch and interesting trips as part of the week. More information will follow about the exact itinerary, but the booking forms will be available before the end of January (translation willing). Keep checking in for more up to date information. 

Panto’r Esgobaeth

Diocesan Panto

Panto place holder.png

Digwyddiad olaf y Flwyddyn Plant, Ieuenctid a Theuluoedd, a digwyddiad a fydd yn ein tywys tuag at flwyddyn Efengylu a Chenhadu gyda'r Esgob, fydd pantomeim wedi'i gynhyrchu gan yr esgobaeth. Pa banto? Dydyn ni ddim yn siŵr eto, ond byddwn yn gwneud cyhoeddiad maes o law. Dewch yn ôl yma am ragor o wybodaeth. 

Our final events offering for the year of Children, Youth and Families, and to send us off into the year of Evangelism and Mission with the Bishop, the diocese will be producing a pantomime. Which panto.... don't know yet, but we will soon. Check back for more information. 

Cynhadledd Cenedlaethau'r Dyfodol : Heyrn yn y Tân 14 Mehefin 2025

Future Generations Conference : Irons in the Fire. 14th June 2025

Camp Fire at Night

Mae dyfodol ein plant a'n pobl ifanc yn ein dwylo ni. Mae'r eglwys a'r sector gwirfoddol yn gweithio'n ddiflino i ddarparu cefnogaeth i'r plant a'r bobl ifanc hynny sydd fwyaf agored i niwed, y rhai sy'n byw mewn tlodi, y rhai sydd â phryderon iechyd meddwl, ac ati. Y broblem yw, yn aml dydyn ni ddim yn gweithio gyda'n gilydd ac yn cefnogi ein gilydd. Mae'r gynhadledd hon yn brosiect ar y cyd rhwng y tasglu Plant, Ieuenctid a Theuluoedd a PAVS (er y bydden ni wrth ein boddau pe bai eraill yn ymuno â ni). Ein nod yw tynnu sylw at y materion sy'n wynebu ein plant, ein pobl ifanc a'n teuluoedd; meithrin cydberthnasoedd a rhannu arferion gorau gyda'n gilydd; ac ymrwymo i weithio gyda'n gilydd i adeiladu dyfodol lle gall ein pobl ifanc ddisgleirio a ffynnu mewn cymunedau sy'n gwneud yr un peth. Cynhelir y gynhadledd ar 14 Mehefin 2025. Y lleoliad i’w gadarnhau.  

The future for our children and young people is in our hands. The church and the voluntary sector are working tirelessly to provide support for those children and young people who are most vulnerable, those who are living in poverty, those with mental health concerns, etc. The problem is, often we don't work and support one another. This conference is a joint project between the Children, Youth and Families taskforce and PAVS (although we would be delighted if others joined us). Our aim is to highlight the issues facing our children, young people and families; build relationships and share best practice with each other; and commit ourselves to working together to build a future where our young people can prosper and thrive in communities that are doing the same. The conference will happen on the 14th June 2025. The venue is yet to be confirmed. 

Gŵyl Rhyddid 30 Awst 2025

Freedom Festival 30th August 2025

Image by Anthony DELANOIX

2. Corinthiaid 3:17 Yr Ysbryd yw'r Arglwydd hwn. A lle y mae Ysbryd yr Arglwydd, y mae rhyddid. 

 

Mae digwyddiad mawr olaf y flwyddyn Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yn ddigwyddiad i bawb. I deuluoedd, gweinidogion, ac eglwysi. Bydd yn gyfle i ddathlu popeth rydyn ni wedi'i wneud a'i gyflawni. Bydd yn gyfle i addoli a chlodfori Duw, i adrodd straeon ac astudio’r Beibl, i lenwi ein meddyliau ac ehangu ein dychymyg. 

Bydd yr ŵyl undydd yn cynnwys prif lwyfan lle bydd addoli, astudiaethau Beiblaidd, adloniant, cerddoriaeth a sgyrsiau. Yn ogystal, bydd pabell weddi a gweinidogaethau gweddi yn digwydd gydol y dydd, yn ogystal â gweithgareddau i blant, pobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd. 

 

Bydd Pure West Radio yn darparu'r prif lwyfan ac yn sicrhau bod y diwrnod cyfan ar gael i chi trwy radio DAB, a byddant hefyd yn ei ffrydio ar-lein.

 

Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn wrth i ni gadarnhau'r lleoliad, a'r amserlen ar gyfer y diwrnod. 

2 Corinthians 3:17 Now the Lord is the Spirit, and where the Spirit of the Lord is, there is freedom. 

The final major event of the year of Children, Youth and Families, will be an event that is for all. For families, for ministers, for churches. It will be a time of celebration of all that we have done and achieved. It will be a time of worshipping and praising God, a time for storytelling and bible teaching, a time to invade our minds and increase our imagination. 

The day long festival will include a main stage where worship, bible teaching, entertainment, music and conversations will happen. In addition there will be a prayer tent and prayer ministries happening throughout the day, activities for children, young people and adults alike. 

 

Pure West Radio will be providing the our main stage and ensuring that you can access the day via DAB radio, and some of the events will be streamed online.

 

More information will follow as we confirm the venue, and the time table for the day. 

bottom of page